DWLP03

Senedd Cymru | Welsh Parliament

Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon, a Chysylltiadau Rhyngwladol | Culture, Communications, Welsh Language, Sport, and International Relations Committee

Datblygu’r ddarpariaeth Gymraeg ôl-16 |Development of post-16 Welsh language provision

Ymateb gan Dyfodol i'r Iaith | Evidence from Dyfodol i'r Iaith

5ed o Ebrill 2024

Ateb swyddogol Dyfodol i’r Iaith

Gwrthwynebwn yr ail-flaenoriaethu cyllid am y rhesymau isod.

Coleg Cymraeg Cenedlaethol

Ar sail y ddau Gyfrifiad olaf, mae niferoedd rhwng 16-24 oed sy’n gallu siarad Cymraeg wedi gostwng o 80,909 i 73,724. Mae cynyddu darpariaeth addysg bellach yn greiddiol er mwyn taclo’r golled ieithyddol yma.

O ran addysg ôl-16 oed, oddeutu 2% o’r cyrsiau sydd ar gael trwy gyfrwng y Gymraeg. Mae angen buddsoddiad sylweddol i gynyddu’r ddarpariaeth a’r defnydd. Nid yw’r gyllideb bresennol (cyn trafod colli £840,000 ym mlwyddyn ariannol 2024-2025) yn agos at fod yn ddigonol i geisio cyrraedd y targed o filiwn o siaradwyr Cymraeg a’r strategaeth honno mor ddibynnol ar y gyfundrefn addysg.

Bydd colli £840,000 yn golygu colli’r momentwm presennol gan olygu hepgor rhai cynlluniau penodol gyda Cholegau addysg bellach, er y cafwyd adborth cadarnhaol ganddynt i’r datblygiadau ieithyddol yn sectorau iechyd, gofal a gofal plant. Dyma’r sectorau sydd â’r nifer mwyaf o brentisiaethau. Pa effaith gaiff hyn ar gyfleoedd gwaith siaradwyr Cymraeg a’r Mudiad Meithrin?

£3.5 miliwn a ddynodir ar gyfer datblygu addysg ôl-statudol Gymraeg. Yn y flwyddyn ariannol olaf, gwariwyd £553,473,000 at gostau byw myfyrwyr o Gymru sy’n dewis addysg uwch y tu allan i Gymru (yn Lloegr yn bennaf). Mae’r gyllideb hon wedi cynyddu 60% dros 5 mlynedd ac yn cynnwys £221,593,000 ar gostau cymorth ffioedd dysgu israddedig. A ydyw hyn yn cael ei adolygu hefyd? Beth am gost Cynllun Seren sy’n cyfrannu at allfudo addysgiadol? Ydy Cynllun Seren hefyd yn cael ei adolygu? Mae’r cynllun yma yn tanseilio Cymraeg 2050 a chynyddu patrwm allfudo gydag ond 61% o fyfyrwyr o Gymru yn derbyn addysg uwch yma (o’i gymharu â 93% yn Yr Alban a Lloegr).

Ni chafwyd cynnydd yng nghyllideb y Coleg Cymraeg Cenedlaethol ers 2016.

Canolfan Dysgu Cymraeg Cenedlaethol

Mae'r ffigyrau'r Ganolfan yn dangos bod mwy na 16,900 o bobl wedi dechrau dysgu yn 2022-23. Roedd cynnydd o 9% yn nifer y bobl rhwng 16-24 oed a ddechreuodd ddysgu Cymraeg yn 2022-23. Dyma gohort pennaf myfyrwyr sy’n dilyn addysg bellach. Mae nifer y dysgwyr wedi cynyddu pob blwyddyn ers 2017, gyda nifer y bobl sy'n dysgu Cymraeg wedi cynyddu o 11% o'i gymharu â'r flwyddyn flaenorol.

Bydd atal £1.5 miliwn i’r Ganolfan yn amharu ar y patrwm hwn mewn cyd-destun lle gwelwyd gostyngiad yn y ganran sy’n gallu siarad Cymraeg o 21% yn 2011 i 17.8% yn 2021. Her bellach i Cymraeg 2050.

Daw hyn ar ben y wasgfa ariannol (ac argyfwng gweithlu athrawon dwyieithog) yn y sector addysg statudol, cwtogiadau sylweddol i gyllidebau Cyngor Llyfrau, Cyngor Celfyddydau Cymru, Amgueddfa a Llyfrgell Genedlaethol a’r sector amaethyddiaeth. Oni amddiffynnir cyllideb i’r Gymraeg, y bygythiad mwyaf iddi yw’r wasgfa ariannol bresennol.

Yn gywir,

Dylan Bryn Roberts

Prif Weithredwr

Dyfodol i’r Iaith

www.dyfodol.net